Crynodeb o'r Prosiect
Mae prosiect Ciwiau Clyfar yn archwilio sut gall dyfeisiau corfforol rhyngweithiol, a ddefnyddir fel ciwiau ac a leolir o amgylch y tŷ, hwyluso a chefnogi pyliau byr o weithgarwch corfforol.
Ein nod yw datblygu pecyn cymorth ar gyfer dylunio dyfeisiau o'r fath, gan gynnwys cyfres o ganllawiau dylunio, prototeipiau rhyngweithiol ac astudiaethau achos sy'n disgrifio profiadau defnyddwyr o ymgysylltu â chiwiau clyfar yn eu cartrefi.
Ein Tîm



Mae Dr Han yn Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n arbenigo mewn Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron (HCI), gan ddatblygu technolegau sy'n annog gweithgarwch corfforol yn y cartref. Mae ganddo raddau o Sheffield a Chaeredin, gan gynnwys PhD ar dracio dwylo yn acwstig, ac mae'n agored i gydweithio.

