Trosolwg o'n hymchwil

Nod y prosiect cyffredinol yw datblygu pecyn cymorth ar gyfer cefnogi gweithgarwch corfforol yn y cartref fel rhan o'r drefn ddyddiol. Bydd hyn yn cynnwys datblygu cyfres o ganllawiau dylunio, rhai cysyniadau cychwynnol ar gyfer technolegau cartref o'r fath a mewnwelediadau i astudiaethau achos lle mae technolegau o'r fath yn cael eu defnyddio. Drwy broses ddylunio ailadroddol, sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, ein nod yw nodi anghenion, agweddau a disgwyliadau defnyddwyr er mwyn deall yn well sut i ddylunio technolegau gweithgarwch corfforol yn y cartref y mae pobl yn ymddiried ynddynt ac eisiau eu defnyddio. Darllenwch am brif gamau ein gwaith isod.

Cam 1

Gweithdai cyd-ddylunio i ddeall anghenion defnyddwyr a chasglu'r gofynion ar gyfer prototeipiau ciwiau clyfar.

Cam 2

Datblygiad ailadroddol a mireinio'r prototeipiau a phrofion defnyddioldeb i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr.

Cam 3

Astudiaethau gwerthuso yn y cartref i nodi problemau logistaidd ac archwilio sut gall ciwiau clyfar effeithio ar ffurfio arferion newydd.

Cyhoeddiadau