Cefnogi Gweithgarwch Corfforol yn y Cartref gyda Chiwiau Cyd-destunol Rhyngweithiol
Cefnogi Gweithgarwch Corfforol yn y Cartref gyda Chiwiau Cyd-destunol Rhyngweithiol
Ychwanegwch symudiad i’ch trefn ddyddiol gyda chiwiau clyfar rhyngweithiol

Defnyddio “ciwiau clyfar” rhyngweithiol wedi’u gosod o amgylch y tŷ i wneud gweithgarwch corfforol yn rhan o’ch trefn ddyddiol.
Pam mae hyn yn bwysig
Mae gweithgarwch corfforol yn gwella lles a gall pytiau bach hyd yn oed o ymarfer corff wneud gwahaniaeth. Fodd bynnag, mae pobl yn cael trafferth dod o hyd i amser a chofio symud gartref – a heb ailadrodd rhywbeth yn gyson mae'n anodd cynnal arferion am gyfnod hir.
Yr her
Mae dechrau arfer newydd yn anodd, ond gall amgylchedd cyson a'i elfennau helpu i ysgogi'r ymddygiad a'i wneud yn awtomatig. Gallai technoleg helpu, ond mae’r technolegau cartref sy’n bodoli ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio i fonitro a rheoli yn y cartref, heb fawr o sylw i ffurfio arferion sefyllfaol.
Sut byddwn ni’n mynd ati
Ein nod yw manteisio ar y rôl bwysig mae'r amgylchedd yn ei chwarae wrth gefnogi’r broses o ffurfio arferion. I wneud hynny, rydyn ni’n defnyddio dyfeisiau bach rhyngweithiol wedi'u gosod o amgylch y tŷ (“ciwiau clyfar”) i ysgogi'r defnyddwyr a'u helpu i integreiddio symudiad yn eu tasgau bob dydd.
Cefndir damcaniaethol
Gan mai ein nod yw cefnogi newid ymddygiad ac annog gweithgarwch corfforol rheolaidd fel rhan o drefn ddyddiol, mae'r prosiect hwn wedi'i seilio ar ymchwil i ffurfio arferion.
Elfennau ffurfio arferion
-
- Ailadrodd: Er mwyn dod yn awtomatig, mae'n rhaid i'r ymddygiad targed gael ei ailadrodd yn gyson. Ond nid yw ailadrodd yn unig yn ddigon.
- Amgylchedd sefydlog: Er mwyn sicrhau bod yr ailadrodd yn troi’n arfer, dylid ailadrodd yr ymddygiad mewn amgylchedd sefydlog i helpu i ffurfio cysylltiadau a fydd yn sbarduno gweithredoedd dymunol y defnyddiwr.
- Ciwiau cyd-destunol Mae gwrthrychau a’r drefn ddyddiol bresennol sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd yn sbardun ar gyfer gweithredoedd ac yn angenrheidiol wrth ffurfio arfer.

Ymchwil ac Arloesedd y DU


