Datblygu ein rownd gyntaf o brototeipiau a phrofi eu defnyddioldeb
Yn dilyn ein gweithdai cyd-ddylunio, fe adeiladon ni’r gyfres gyntaf o brototeipiau a fyddai'n graidd i brosiect Ciwiau Clyfar.
Tu Hwnt i Fonitro Goddefol
Cyn adeiladu'r prototeipiau, roedden ni eisiau archwilio'r ymagweddau cyfredol tuag at weithgarwch corfforol yn y cartref fel y gwelir yn y llenyddiaeth ehangach. I gefnogi ein dealltwriaeth, cynhalion ni adolygiad llenyddiaeth o 21 o bapurau a gyhoeddwyd ers 2015 gan edrych ar sut roeddent yn gweithio a pha dechnegau a ddefnyddiwyd ganddynt i geisio annog gweithgarwch corfforol. Roedd yr adolygiad hwn yn ystyried y mathau o ddyfeisiau, y synwyryddion a ddefnyddiwyd, y dulliau adborth a ddefnyddiwyd a'r Technegau Newid Ymddygiad (TNY) sy’n bresennol yn y dyfeisiau hyn.
Nododd yr adolygiad hwn nifer o dueddiadau diddorol:
• Cyfyngiadau Cartref – Dangosodd dyluniad systemau gweithgarwch yn y cartref dueddiadau clir tuag at ymarferion cryfder a chydbwysedd. Y ddau ffactor allweddol oedd yn ymddangos fel petaent yn chwarae rhan yn hyn oedd y ffocws ar oedolion hŷn yn yr amgylchedd cartref na fyddent yn ymgysylltu ag ymarferion aerobig mor hawdd, ond hefyd yr angen i ffitio i'r amgylchedd domestig. Roedd eu dyluniad ysgafn, ag ôl troed bach, yn aml yn gwasanaethu ymarferion cryfder a chydbwysedd yn well, ond byddai ymarferion aerobig yn y cartref o fudd i iechyd defnyddwyr hefyd.
• Ciwiau Haenog yn Byw mewn Gwrthrychau – Mae ffurf a lleoliad ffisegol yn dylanwadu ar ymddygiadau defnyddwyr. Nid oes angen i'r ddyfais ysgwyddo'r baich llawn o hyrwyddo gweithgarwch gan y gall ddefnyddio arferion presennol yn yr amgylchedd i leihau gwaith rhyngwyneb ychwanegol sy'n cysylltu ciwiau ag ymddygiadau. Gallai haenu ciwiau ar gyfer gweithgarwch yn yr amgylchedd byw, a chyfuno'r rhain ag arferion presennol, helpu i hyrwyddo gweithgarwch mwy cynaliadwy.
• Ecolegau Cartrefi – Roedd diffyg cysondeb clir rhwng natur un-ddyfais llawer o systemau a natur aml-ystafell llawer o gartrefi. Ar y cyd â manteisio ar arferion sydd eisoes yn bodoli, gallai system fodiwlaidd aml-ddyfais helpu i gefnogi gweithgarwch ledled amgylchedd y cartref, a helpu i ddatblygu arferion waeth ble mae'r defnyddiwr yn ei gartref.
Darllenwch fwy am yr adolygiad yma.
Datblygu Prototeipiau
Fe wnaethon ni ddatblygu ein prototeipiau yn seiliedig ar adborth cyfunol y gweithdai a'r adolygiad llenyddiaeth (gweler Cam 1). Y gweithdai wnaeth lywio’r ymarferion a'r ystyriaethau unigol ar gyfer dylunio yn bennaf, tra bod yr adolygiad yn llywio dyluniad ehangach y dyfeisiau ymyrraeth. Fel rhan o'r gweithdai cychwynnol, fe wnaethon ni nodi cyfres o ymarferion syml y gallai pobl ymgysylltu â nhw fel rhan o'u trefn ddyddiol: Eistedd-i-Sefyll, Sefyll ar un Goes, Eistedd yn erbyn Wal, Estyniadau Braich (wedi'i wireddu fel gêm NFC), Gorymdeithio, a Chroesi a Dal Braich. Cyflwynwyd Her Ystum i ddisodli Croesi a Dal Braich, i ateb cwyn gyffredin bod yr ymarfer yn teimlo'n ddi-nod.
Gan ddechrau o'r pum prototeip ymarfer corff unigol o Weithdai 4-6, yn gyntaf fe wnaethon ni gael gwared ag unrhyw elfennau diangen trwy nodi ymarferion a oedd yn defnyddio synwyryddion a dulliau adborth tebyg (neu yr un fath hyd yn oed) ac a allai felly weithredu fel un ddyfais. Roedd Camau Gorymdeithio, Cydbwyso a’r Her Ystum oll yn defnyddio mecanwaith canfod symudiad mewn dyfais llaw, ac roedd y gêm NFC yn defnyddio synhwyrydd bach y gellid ei fewnosod mewn dyfais llaw debyg. Roedd yr ymarferion eraill, Eistedd-i-Sefyll a Sgwat, angen synwyryddion wedi'u lleoli ac felly nid oeddent yn addas ar ffurf llaw. Felly, cafodd y dyfeisiau eu hadeiladu fel uned llaw a oedd yn hwyluso Gorymdeithio, Bownsio, Ystum ac NFC, ac wedi'u cysylltu â dau fodiwl allanol i hwyluso Sgwat ac Eistedd-i-Sefyll. Fe wnaethon ni hefyd ddatblygu dau fath o'r uned llaw, un siâp petryal ac un siâp silindr, oherwydd pryderon ynghylch pa mor hawdd fyddai dal yr uned betryal i'r rhai sydd â llai o reolaeth echddygol.
Profi Defnyddioldeb ac Ailadrodd
Cafodd y dyfeisiau hyn eu symud at brofion defnyddioldeb, lle gofynnwyd i wyth cyfranogwr (defnyddwyr terfynol posibl) wneud y gyfres o ymarferion a chyfleu unrhyw rwystrau neu broblemau a gafwyd. Dechreuodd pob sesiwn defnyddioldeb gyda chyfweliad byr yn gofyn am eu profiadau gydag ymarfer corff, yn enwedig yn y cartref, a thechnoleg ymarfer corff. Yna cyflwynwyd cyfres o dasgau fel troi’r system ymlaen, gosod nodau personol a chwblhau’r ymarferion. Yn dilyn hyn, gofynnwyd cwestiynau pellach am y defnyddioldeb ac adborth mwy cyffredinol.
Ar y cyfan, roedd y defnyddwyr yn teimlo bod y system yn braf i'w defnyddio a bod y rhan fwyaf o'r ymarferion yn hawdd eu deall a'u cwblhau. Yn ystod y tasgau a gyflwynwyd, fe nodon ni ymarferion a achosodd broblemau i'n defnyddwyr:
1. Ystyriwyd bod yr Her Ystum yn anodd ei deall. Y dull roedd ein dyfais yn ei ddefnyddio oedd awgrymu ystum, y byddai gan y defnyddiwr bum eiliad i'w gyfateb, a byddai'r ddyfais naill ai'n symud ymlaen i'r ymarfer nesaf neu'n gofyn iddynt ei ailadrodd os ystyriwyd bod yr ystum yn anghywir. Fodd bynnag, roedd y 'cywirdeb' yn seiliedig ar gyfeiriad y ddyfais, ac yn aml byddai defnyddwyr yn ceisio gwirio'r sgrin a fyddai'n gwneud yr ystum yn annilys.
2. Profodd y defnyddwyr rywfaint o ddryswch ynghylch sut roedd y synhwyrydd sgwatiau ar y llawr yn gweithio. Byddai rhai defnyddwyr yn sgwatio dros y synhwyrydd (y defnydd bwriadedig), tra byddai eraill yn sgwatio gyda'r uned law dros y synhwyrydd uwchsonig.
Gyda'r adborth hwn o'r sesiynau defnyddioldeb, fe wnaethon ni iteriad arall ar gyfer y dyfeisiau. Cyfunwyd Dal Braich a Her Ystum yn un ymarfer, gan ofyn am ystum a gofyn i'r defnyddiwr ddal yr ystum hwn nes clywed sŵn. Cafodd sgwatiau eu hintegreiddio i'r uned law hefyd, gan ofyn i'r defnyddiwr sgwatio a dal y synhwyrydd yn agos at y llawr i actifadu'r synhwyrydd uwchsonig. Creodd hyn dair dyfais derfynol (yr hyb, yr uned law, a’r uned eistedd-i-sefyll) a gafodd eu cymryd ar gyfer profion dichonoldeb yn y cartref i'w cwblhau ddechrau 2026.








