Deall anghenion defnyddwyr a chasglu'r gofynion ar gyfer prototeipiau ciwiau clyfar
Er mwyn deall yn well sut gallai ciwiau clyfar ffitio i amgylchedd y cartref, fe gynhalion ni ddwy rownd o weithdai cyd-ddylunio.
Gweithdai 1-3: Gweithgarwch Corfforol yn y Cartref
Nod y tri gweithdy cyntaf oedd deall agweddau defnyddwyr tuag at dechnolegau sy’n cefnogi systemau gweithgarwch corfforol a'u barn ar ddatblygu arferion newydd yn fwy cyffredinol. I ddechrau, fe gynhalion ni gyfweliadau unigol gyda phob cyfranogwr cyn y gweithdy, a roddodd syniad sylfaenol i ni o sut maen nhw wedi ymgysylltu â gweithgarwch corfforol yn y gorffennol, beth oedd yn gweithio neu nad oedd yn gweithio. Llywiodd y wybodaeth hon y gweithdai. Canolbwyntiodd Gweithdy 1 ar drafod arferion a sut i'w cefnogi mewn bywyd bob dydd, archwiliodd Gweithdy 2 y ffactorau amrywiol a all gael effaith ar ddatblygu arferion gweithgarwch corfforol (e.e. oedran, cyflyrau iechyd, statws ariannol) a'r problemau posibl y gallent eu cyflwyno. Yn olaf, canolbwyntiodd Gweithdy 3 ar arferion yn y cartref a'r hyn a allai helpu neu rwystro eu ffurfio.
Dysgon ni dair gwers allweddol o’r gweithdai:
- Fe wnaethon ni nodi ffactorau amgylcheddol allweddol y dylid eu hystyried wrth ddylunio unrhyw dechnolegau gweithgarwch corfforol yn y cartref, gan gynnwys pethau (diriaethol neu anniriaethol) a allai fod ar goll pan fydd pobl yn ceisio cymryd rhan mewn gweithgarwch; effaith y gofod ffisegol sydd ar gael; dylanwadau cadarnhaol a negyddol pobl eraill sy'n rhannu'r un amgylchedd; pryderon diogelwch; a'r angen i integreiddio technolegau sy’n bodoli eisoes i arferion gweithgarwch.
- Weithiau, wrth gyd-ddylunio technolegau newydd, mae rhagfarn a rhagdybiaethau'n gallu ymledu i syniadau dylunio cyfranogwyr, yn enwedig wrth geisio dylunio atebion a fyddai'n gweithio i bobl eraill.
- Mae cyfranogwyr yn defnyddio gwahanol ddulliau o (ail)ddylunio technoleg sy'n blaenoriaethu gwahanol elfennau wrth wneud ymyriadau'n addas ar gyfer defnyddiwr a chartref penodol. Roedd yn ymddangos bod gwahaniaeth rhwng blaenoriaethu Safbwyntiau Personol a Amgylchiadau Personol, e.e. dylunio ar gyfer pobl ag anableddau neu ar gyfer rhywun â chyfrifoldebau gofalu. Roedd gwahaniaeth hefyd rhwng Syniad sy'n Esblygu a Syniad Cyflawn, h.y. newid ffocws y dyluniad i gyd-fynd â'r grŵp defnyddwyr targed yn hytrach na chadw'r syniad craidd, ond ei addasu ychydig i eraill.
Mae'r papur sy'n disgrifio'r gweithdai hyn yn fanylach yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.
Gweithdai 4-6: Nodweddion, Cyd-destun a Gwerthoedd
Yn seiliedig ar ganlyniadau'r gweithdai cychwynnol a'r adolygiadau llenyddiaeth a gynhaliwyd gennym (darllenwch ein papur adolygu a oedd yn canolbwyntio ar dechnolegau ar gyfer cefnogi gweithgarwch corfforol yn y cartref; canolbwyntiodd adolygiad arall ar gyd-ddylunio ymyriadau gweithgarwch corfforol (sy’n cael ei adolygu ar hyn o bryd), fe wnaethom ddatblygu prototeipiau cynnar i ddangos sut y gallai technoleg gefnogi pytiau byr o ymarfer corff yn y cartref (“tameidiau ymarfer corff”) a'u defnyddio fel propiau yn ystod yr ail rownd o weithdai. Gallwch weld fersiynau cynnar y prototeipiau, a sut gwnaethon nhw esblygu drwy gydol y prosiect, yn yr adrannau Prototeipiau. Disgrifir y broses ddatblygu ar dudalen Cam 2.
Canolbwyntiodd y gweithdy cyntaf yn y rownd hon (Gweithdy 4) ar nodweddion arferion bob dydd, a sut i ddatblygu technoleg sy'n ystyried arferion presennol yn y cartref. Symudodd Gweithdy 5 i ganolbwyntio ar bobl eraill sy'n byw yn yr un gofod, a sut orau i osgoi bod y dechnoleg yn cael effaith negyddol arnynt tra'n dal i gael effaith gadarnhaol ar y defnyddiwr targed. Defnyddiodd y gweithdy olaf, Gweithdy 6, brototeipiau gormodol (e.e. system oruchwylio’r cartref cyfan, neu goler sioc a oedd yn cosbi am beidio â chydymffurfio â phremiymau yswiriant uwch) ochr yn ochr â phrototeipiau wedi'u datblygu o'r gweithdai blaenorol i gychwyn sgwrs am ffactorau a gwerthoedd eang (fel preifatrwydd, cost, risg, diogelwch) a allai ddylanwadu ar fabwysiadu technolegau newydd.
Rydyn ni wedi dysgu'r gwersi canlynol:
- Mae angen amrywiaeth yn nyluniad a chyflwyniad technolegau cartref ar gyfer cefnogi gweithgarwch corfforol – gan gynnwys amrywiaeth o ymarferion ac amrywiaeth o ffyrdd o ymgysylltu â nhw.
- Mae angen i'r dyfeisiau fod yn fach a dylent integreiddio'n hawdd ag amgylchedd y defnyddiwr.
- Dylai'r dyluniad ystyried y defnyddwyr a'u hanghenion, nid dim ond yr ymddygiad maen nhw am ei newid.













