Rhoi ein technoleg ar brawf allan yn y byd

Mae ein prototeipiau wedi'u treialu a'u profi erbyn hyn, felly nawr yw’r amser i’w rhannu’n eang ac ateb y cwestiwn: a yw ein dyfeisiau 'ymarfer corff gartref' yn addas i'r diben?

Adeiladu Ein Technoleg

This stage represents a significant turning point from development to deployment. Up to this point, the work has been dedicated to understanding the elements that must go into building technologies for exercise snacking. Our earliest workshops explored the background of behavioural formation and how we might be considerate of the needs of different users in promoting active behaviours. Our following workshops looked at how to design technology to promote active behaviours, both through the specific components chosen and their implementation alongside existing habits and lives. We conducted literature surveys looking at co-design for the home environment and the development of technology for behaviour change. Once our prototypes began to take shape, our usability testing focused on the ability to derive active behaviour support from the devices, from turning on the system to meeting the presented goals (see Cam 2). All this work shares one common theme – it is lab-based, and therefore conceptual.

Felly, ein cam nesaf yw pontio o'r labordy i'r cartref, gan edrych ar sut mae ein technoleg sy'n seiliedig ar theori yn gweithredu pan gaiff ei chyflwyno’n eang. Mae'r gwaith hwn yn seiliedig ar ddwy astudiaeth. Nod yr astudiaeth gyntaf fydd profi'r prototeipiau a llywio'r astudiaeth nesaf o ran unrhyw newidiadau munud olaf sydd eu hangen er mwyn i'r dechnoleg weithredu ar ei gorau. Bydd yr astudiaeth derfynol yn gwerthuso'r dechnoleg o ran ei gallu i gefnogi a chynnal ymddygiadau tameidiau ymarfer corff.

Defnyddio Gartref a Dichonoldeb

Mae'r astudiaeth gyntaf yn astudiaeth o ddichonoldeb gartref. Rydyn ni'n mynd i ddefnyddio ein technoleg mewn cartrefi yn y tymor byr gyda'r prif fwriad o wneud yn siŵr ei bod yn gweithio. Efallai bod hyn yn swnio fel ein bod yn gor-symleiddio, ond dyma brif gwestiwn yr astudiaeth hon mewn gwirionedd – yn y tymor byr, a yw’r rhai sy’n cymryd rhan yn gallu defnyddio'r dechnoleg bob dydd i hyrwyddo ymarfer corff, ac a oes unrhyw broblemau sy'n codi pan ddisgwylir i'r dechnoleg hon weithredu'n barhaus?

This study is currently in progress. It is being conducted as asynchronous one-week trials where technology is deployed, used, and then collected by the research team. The participant is provided with the technology (with slightly varied components, two versions of the core unit and two types of NFC game tokens are provided to note any preferences) and a product manual outlining how to use the devices and how to complete the exercises, and left to their own devices for a week to install the technology, use it daily and attempt to develop a habit.

Dylai'r astudiaeth hon ddod i ben ym mis Ebrill 2026 a byddwn yn diweddaru'r adran hon pan fydd wedi'i chwblhau.

Profi Defnyddioldeb ac Ailadrodd

Yn dilyn yr astudiaeth ddichonoldeb, elfen allweddol olaf y prosiect a datblygu'r Pecyn Cymorth yw'r prif werthusiad o'n prototeipiau a ddatblygwyd. Er bod yr astudiaeth ddichonoldeb yn canolbwyntio'n bennaf ar broblemau sy'n codi pan ddisgwylir i'r system weithredu gartref, bydd y prif werthusiad yn canolbwyntio ar allu'r dechnoleg i sefydlu a chefnogi'r arfer o wneud tameidiau ymarfer corff. Cynhelir yr astudiaeth dros sawl mis, gan roi amser i arferion ffurfio – neu fethu, os bydd y defnyddiwr yn colli diddordeb – gan y bydd hyn hefyd yn wybodaeth ddefnyddiol i'n Pecyn Cymorth.

Bydd yr astudiaeth hon yn canolbwyntio'n bennaf ar effaith y dechnoleg ar ymddygiad a pha mor dda y llwyddodd i hyrwyddo a chefnogi'r ymddygiadau yn y tymor hir. Byddwn yn canolbwyntio ar wneud yr ymarferion, ffurfio arferion a defnydd cyffredinol o'r dyfeisiau dros y misoedd y caiff ei defnyddio. Bydd hyn, ynghyd â'r ddealltwriaeth o ddichonoldeb ar sut i’w gweithredu gartref, yn ein helpu i ddeall y darlun llawn o ba mor dda mae ein prototeipiau yn cefnogi ymddygiadau tameidiau ymarfer corff yn y cartref. Ar ben hynny, bydd yr astudiaeth gartref hefyd yn ffynhonnell ar gyfer astudiaethau achos o lwyddiant a methiant yr ydym yn bwriadu eu cyhoeddi ar y wefan.

Y bwriad yw cynnal yr astudiaeth werthuso derfynol yn ystod Haf 2026.

Cam 1

Gweithdai cyd-ddylunio i ddeall anghenion defnyddwyr a chasglu'r gofynion ar gyfer prototeipiau ciwiau clyfar.

Cam 2

Datblygiad ailadroddol a mireinio'r prototeipiau a phrofion defnyddioldeb i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr.

Cam 3

Astudiaethau gwerthuso yn y cartref i nodi problemau logistaidd ac archwilio sut gall ciwiau clyfar effeithio ar ffurfio arferion newydd.