
Ar 3 Rhagfyr 2025, teithiodd y tîm yn bell i arddangos eu technoleg i ddemograffeg newydd gyffrous – myfyrwyr a staff prifysgol yn rhywle heblaw de Cymru.
Roedd y prototeipiau oedd ar y gweill gennym yn destun digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Robert Gordon, gyda gorsafoedd wedi'u sefydlu mewn canolfan iechyd gymunedol leol ac un o adeiladau'r brifysgol ei hun, i gasglu adborth a meithrin trafodaeth ynghylch canfyddiadau o’n systemau ac a oedd yna adborth penodol a allai helpu i wella'r systemau hyn.
Fe siaradon ni â nifer o staff, myfyrwyr, ac aelodau o'r cyhoedd, a chynnig cyfle i lawer anwesu Gravel y ci ymarfer corff i'w denu at y sgwrs am y prototeip. Nid yn unig dysgon ni lawer am sut i gynnal sesiwn ymgysylltu â'r cyhoedd yn effeithiol, ond fe ddysgon ni bethau am ein technoleg hefyd.
Cafodd ein prototeipiau dderbyniad da, ond roedd methiannau mewn amryw ffyrdd. Llwyddodd yr ymarfer anwesu'r ci bach i ddenu diddordeb cryf, ond nid oedd rhai pobl yn teimlo y byddai'n ffitio'n hawdd i'w hamgylchedd cartref. Ar y llaw arall, byddai ein system Her Ystum yn dod yn rhan o drefn ddyddiol naturiol yn hawdd ond roedd pryderon ynghylch pa mor effeithiol fyddai'r ymarferion a pha mor hir bydden nhw’n cynnal diddordeb.
Ar ôl ychydig oriau o siarad â phobl oedd â diddordeb wrth gerdded heibio, a llawer mwy o oriau yn teithio yn ôl i dde Cymru, daethon ni â nifer o fewnwelediadau da yn ôl gyda ni a fydd yn helpu i fireinio'r hyn rydyn ni wedi'i adeiladu cyn ein hastudiaethau dichonoldeb sydd ar ddod.




