Rydym yn chwilio am bobl 18 oed neu hŷn sy'n anweithredol (ond hoffai newid hynny) ac sydd â diddordeb mewn technolegau gweithgaredd corfforol i brofi ein prototeipiau gartref dros 3 mis.

Dros y ddwy blynedd diwethaf, mae’r tîm Smart Cues wedi datblygu’r set o brototeipiau sy’n cefnogi gweithgaredd corfforol mewn cartref. Dych chi’n gallu darllen am ein hymchwil ni yma ac yma. Mae hen bryd i profi ein system ni.

Mae’r system cefnogi symudiadau byrion fel sgwatiau, cydbwyso a chamau gorymdeithio mewn ffordd hwyl. Mae’n tracio a chofnodi nodau ymarfer corff dyddiol. Dros yr astudiaeth, dylai'r ddefnydd y system gymryd tua 10 munud drwy gydol y dydd bob dydd.

Beth fydd yn digwydd yn ystod yr astudiaeth?

Byddan ni’n dosbarthu’r system i’ch tŷ chi, esbonio sut mae’n gweithio, ac chyfweld i chi (10-20 munud) i ddeall yn well sut fasech chi’n ddefnyddio ein prototeipiau ni. Wedyn, byddwch chi’n cael cyfle i ddefnyddio’r system am 3 mis a gweld sut mae’n gweithio fel rhan o’ch drefn ddyddiol; derbyniwch chi ffurflen i'w llenwi pob pythefnos. Ar y diwedd, byddwn yn eich cyfweld am eich profiadau (30-60 munud) a chymryd y prototeipiau’n ôl. Fis yn ddiweddarach, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu cyfweliad dilynol (20-30 munud).

Ar ôl y cyfnod astudio 3 mis, derbyniwch taleb Love2Shop gwerth £50. Bydd taleb Love2Shop ychwanegol gwerth £15 ar gael fel diolch am y cyfweliad dilynol.

Os diddordeb gyda chi, llenwch y ffurflen hon os gwelwch chi’n dda. Os oes cwestiynau gyda chi, cysylltwch â Dr Darren Scott (ScottD15@cardiff.ac.uk).