
Prosiect Smart Cues yn ennill y Wobr am yr Arddangosiad Gorau yng Nghynhadledd Cyn-CHI Bryste
Teithiodd y tîm i Fryste i arddangos ein prototeipiau Smart Cues diweddaraf mewn digwyddiad arddangos byw. Y nod oedd cyflwyno'r prosiect i gynulleidfa ehangach a chael adborth anffurfiol ar sut mae pobl yn canfod y dechnoleg.
Yn ystod y digwyddiad, fe wnaethom arddangos set o brototeipiau go iawn sydd ar y gweill ac wedi'u cynllunio i gefnogi "tameidiau ymarfer corff", gan annog pyliau byr o weithgarwch corfforol y gellir eu hintegreiddio yn rhan o arferion bob dydd yn y cartref. Gwahoddwyd mynychwyr i arbrofi gydag ystod o symudiadau syml, gan gynnwys cydbwyso ar un goes, camau gorymdeithio, dal ystum, sgwatiau, eistedd-i-sefyll, a gêm symud yn seiliedig ar NFC. Mae'r gweithgareddau hyn yn fwriadol yn rhai byr ac ysgafn, gan ddangos sut y gallai adegau bychain o symud ddod yn rhan naturiol o fywyd bob dydd.
Fel bob amser, chwaraeodd Gravel y ci ymarfer corff ran bwysig o ran denu sylw. Cafodd llawer o ymwelwyr eu denu gan y rhyngweithio chwareus â Gravel cyn cael gwybod am weddill y system prototeip a dysgu rhagor am y syniad o dameidiau ymarfer corff.
Drwy gydol y sesiwn, fe wnaethom siarad â myfyrwyr, ymchwilwyr, a'r cyhoedd am sut maen nhw'n dehongli'r dechnoleg ac a ydyn nhw’n gallu dychmygu dyfeisiau fel hyn yn rhan o’u cartrefi eu hunain. Erbyn diwedd y dydd, dychwelodd y tîm gyda chasgliad o adborth ac arsylwadau a fydd yn helpu i lywio’r camau nesaf wrth ddatblygu prosiect Smart Cues.
Yn fwyaf nodedig, enillodd yr arddangosiad y Wobr am yr Arddangosiad Gorau, gan dynnu sylw at gryfder y cysyniad a natur ddifyr y profiad rhyngweithiol.


